Ar-loesi [berfenw] Gair gweithredu…?

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Gan Alan Mumby, darlithydd Rheoli Arloesedd Rhyngwladol gyda MADE Cymru

Mae 21 Ebrill 2021 yn Ddiwrnod Creadigrwydd ac Arloesi’r Byd fel y’i hyrwyddir gan y Cenhedloedd Unedig ac a gymeradwywyd ac a gydnabyddir gan lywodraethau a phobloedd ledled y byd. Anogaeth a chymhelliant mawr i ni i gyd.

Sefydliadau newydd…?

Gellir dadlau bod arloesi’n bwnc llosg gydag arsylwyr, arbenigwyr a’u tebyg i gyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon ynghylch dilysrwydd strategaethau arloesi Llywodraeth y DU. Hyd yn oed yn nes adref, mae cynnig i wella galluoedd arloesi’r wlad yn sylweddol drwy argymell creu Corff Arloesi Cenedlaethol annibynnol i Gymru a sefydlu Ysgol Lywodraethu Bevan gyda chylch gwaith i ddarparu cenhedlaeth newydd o weision cyhoeddus i’r wlad a fyddai’n gallu canolbwyntio ar broblemau diwydiannol a chymdeithasol yn y byd go iawn.

Ochr yn ochr â’r sefydliadau newydd hyn byddai’r Parthau Cydweithredu Arloesedd a’r alwad – ‘Heriau Cymru’ – yn gwneud Cymru’n lle ar gyfer meddwl yn seiliedig ar genhadaeth. Mae’r cynnig wedi’i strwythuro’n dda ac mae’n debygol o gael ei ystyried yn un teilwng iawn. Fel sylwedydd, bydd yn ddiddorol gweld a yw unrhyw un neu bob un o’r cynigion hyn, wedi’u tymheru, eu talfyrru neu fel arall yn dod i fodolaeth. I mi, mantais cynnig fel hwn yw ei fod yn cadw arloesedd ar y blaen a rhaid ystyried bod hynny’n beth cadarnhaol i’n busnesau yma yng Nghymru.

Gan ei bod yn rhan o Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), prifysgol sy’n croesawu ac yn cefnogi arloesedd yn ddiwylliannol ac yn sefydliadol, efallai ei bod hi’n amserol ystyried beth yw arloesi? A pha ddylanwadau mae’n eu cael, neu a all eu cael ar gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru?

Yn draddodiadol, mae arloesi fel gweithgaredd wedi bod yn gysylltiedig â’r diwydiannau gweithgynhyrchu blaenllaw a’u datblygiad o gynhyrchion uwch-dechnoleg a chynhyrchion spec uchel – ac rydym yn tueddu i edrych ar ein harwyr mentrus ac entrepreneuraidd fel Apple, Alphabet, Dyson, Airbus, Philips – (a’r cyfan a ystyriwn ar flaen y gad o ran arloesi), i roi’r enghreifftiau gorau i ni o arloesedd radical ac aflonyddgar – a hynny’n gyffredinol, yw’r hyn y maent yn ei gyflawni. Dyma’r mathau o arloesedd gweladwy iawn y gall cwmnïau a sefydliadau yng Nghymru eu hadnabod ac anelu at eu hefelychu.

Un peth sy’n dod yn amlwg yw bod syched am wybodaeth ac awydd gan gwmnïau yng Nghymru i werthfawrogi arloesedd yn well a sut, yn bwysicach, y gall fod yn berthnasol iddynt. Maen nhw am wybod sut y maen nhw’n rheoli arloesedd, p’un a yw eu prosiectau arloesi’n cael eu deillio a’u darparu’n fewnol ai peidio, neu a ydynt yn brosiectau ar y cyd â chydweithredwyr allanol sy’n llenwi’r bylchau gwybodaeth neu sgiliau sydd ganddynt mewn meysydd fel ymchwil wyddonol, dylunio cynnyrch, gwybodaeth beirianneg arbenigol neu wybodaeth farchnata. I mi, y datblygiad mwyaf calonogol yw nad yw’r cwmnïau sydd am wybod mwy am reoli arloesedd ac ar gyfer y mater hwnnw datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, o reidrwydd yn fathau radical o dechnoleg uchel. Maent yn gwmnïau mentrus o Gymru sydd am fod yn well am wneud yr hyn a wnânt drwy fod yn fwy creadigol…. yn fwy arloesol.

Un Peth yn Gyffredin

Yn haf 2019, daeth Rhaglen MADE Cymru i fodolaeth, gydag un o’r cynigion yn ddewis o ddau gwrs arloesi. Roedd y cyrsiau hyn wedi’u bwriadu’n wreiddiol ac yn canolbwyntio’n bennaf ar sector gweithgynhyrchu Cymru ac felly i’r cyrsiau hyn (yn ôl y disgwyl) daeth peirianwyr o gwmnïau gweithgynhyrchu Cymru, ac roedd hyn yn braf. Ond gwelsom hefyd fod cyfle i weithwyr proffesiynol eraill (nid y peirianwyr yn unig) ymuno â’r rhaglen gan fod y rhan fwyaf yn cydnabod y pwnc rheoli arloesedd fel gweithgaredd ‘ar draws y cwmni’ ac nad yw’n byw mewn un rhan o’r cwmni yn unig, neu’n waeth byth, y tu ôl i ddrws a farciwyd yn ‘Adran Arloesi’.

Felly, mae’r myfyrwyr sydd ar y cyrsiau arloesi ar hyn o bryd wedi dod o bob rhan o Gymru – ac o broffesiynau amrywiol iawn; peirianwyr, fferyllwyr, un o raddedigion y gyfraith, dylunwyr tecstiliau, rheolwr melin lifio, dylunydd wyneb, peirianwyr dylunio, rheolwyr marchnata a micro-balaeontolegydd, i sôn am rai ohonynt yn unig. Mae’r cwmnïau y maent yn dod ohonynt yr un mor amrywiol; gwneuthurwr offerynnau gwyddonol ar gyfer desgiau thermol, melin wlân draddodiadol, cynhyrchwyr offer arbenigol ar ogyfer gweithio ar uchder, ymgynghoriaeth brandio a graffeg, ymgynghoriaeth stratigraffig, cwmni prosesu coed, ac ymgynghoriaeth hedfan.

Mae gwylio’r myfyrwyr hyn yn gweithio ar aseiniadau academaidd yn seiliedig ar dîm wedi bod yn wirioneddol ddiddorol. Mae’n fraint brin gweld stratigraffydd, dylunydd tecstiliau a fferyllydd diwydiannol (fel myfyrwyr MSc rhan-amser) yn cyflwyno adolygiad o fodel busnes arloesol a ddefnyddir ar hyn o bryd gan gynhyrchydd dillad awyr agored yn America. Neu i wrando ar drafodaeth rhwng gwneuthurwr baner a chynllunydd cynhyrchu ar ddefnyddio archwiliad arloesi, ac yna trafodaeth ar rinweddau datblygu brîff dylunio!

Rwy’n credu mai dyma fy mhwynt.

Ym mis Rhagfyr 2019, amcangyfrifwyd bod 267,000 o fentrau ledled y wlad, yr amcangyfrif uchaf er 2003, yn cyflogi tua 1.2 miliwn o bobl, y mwyafrif ohonynt yn fusnesau bach a chanolig. Byddwn yn awgrymu mai’r rheswm dros sefydlu eu busnes i’r rhan fwyaf o fusnesau Cymru oedd er mwyn cynhyrchu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth. Nid eu bwriad o reidrwydd oedd bod yn gwmni ‘arloesol’, byddai bod yn llwyddiannus yn “.. gwneud yn iawn diolch yn fawr!” Mae cael llwyddiant fel y nod yn hollol amlwg, ni ellir ei feio mewn gwirionedd.

Felly pam nawr y diddordeb mewn arloesi a sut i’w reoli? Mae ein busnesau yng Nghymru yn ein hadlewyrchu fel pobl, fel cymdeithas. Pan glywn am rywbeth ‘newydd’ sy’n cael ei gynnig rydym yn chwilfrydig. Pan fydd rhywbeth a all wella neu wneud yr hyn rydym yn ei wneud yn fwy cynaliadwy, o bosibl yn sicrhau ein twf, ein llwyddiant, neu ddim ond oroesi – rydym am wybod mwy – ac felly rydym yn hapus i gael profiad dysgu.

Mae pob un o’r myfyrwyr hyn am wybod beth yw arloesedd – a sut, yn gyd-destunol, y gall ddod â difidendau i’r ffordd y maent yn cyflawni’r busnes yn eu gweithleoedd eu hunain.

Mae dim ond gofyn rhywbeth mor syml â diffinio beth yw arloesi? yn cyflwyno llu o ddehongliadau a diffiniadau, rhowch gynnig ar chwilio amdano ar Google, mae’r niferoedd yn frawychus. Ond y pwynt yw, nid yw’r un o’r diffiniadau’n debygol o fod yn anghywir, mae hyn oherwydd ei fod yn dibynnu mewn gwirionedd ar bwy sy’n gwneud y diffiniad a phwy sy’n ei ddarllen. Mae’n debygol o gael ei ystyried a’i ddehongli’n wahanol yn dibynnu a ydych chi’n wyddonydd roced yn SpaceX neu’r cynllunydd cynhyrchu mewn cwmni mowldio chwistrellu haen 1 yn Wrecsam, mae angen iddo fod yn ei gyd-destun.

Rwy’n credu bod y gair arloesi wedi’i herwgipio i ryw raddau ac mewn rhai achosion mae wedi cael ei ddefnyddio fel slogan yn unig – ymadrodd bachog, bron yn jingle sy’n gysylltiedig â llawer o ymgyrch marchnata cysylltiadau cyhoeddus a gwerthu, yn eithaf aml heb bresenoldeb unrhyw arloesedd gwirioneddol.

Y myfyrwyr sy’n astudio ac yn defnyddio arloesedd fydd y bobl a fydd yn cymryd ‘Arloesedd’ – enw, ac yn ei newid i ferfenw – ‘arloesi’, hynny yw – ‘.. bod yn arloesol – gweithred gorfforol neu gyflwr bod.’

Wrth esbonio beth oedd berf, dywedodd fy athro Saesneg yn Ysgol Dinas Brân “… mae bob amser yn air gwneud Alan…….”.

Mae MADE Cymru yn cynnig dau opsiwn cwrs hyblyg ac ar-lein (y ddau wedi’u hardystio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant):

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.