Bore Coffi a Sesiwn Cwestiwn ac Ateb Llwyddiannus gyda MADE Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Fore Mawrth, cynhaliodd tîm MADE Cymru sesiwn Cwestiwn ac Ateb anffurfiol ar Zoom i ateb cwestiynau am eu cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Gweithgynhyrchu Uwch (Diwydiant 4.0) a Rheoli Arloesedd. Ers cyhoeddi bod y cyrsiau bellach wedi eu hariannu’n llawn (yn ddibynnol ar gymhwysedd), mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.

Llwyddodd sesiwn dydd Mawrth i ddenu nifer fawr o gwmnïau gweithgynhyrchu o Gymru o amrywiaeth eang o wahanol sectorau. Roedd cymysgedd o BBaCh a busnesau mawr, a phob un â diddordeb mewn darganfod mwy am fodiwlau a chyrsiau MADE Cymru. Atebodd y tîm gwestiynau a rhoi gwybodaeth ychwanegol am eu cynnwys.

Dywedodd Jo Ashburner o Red Dragon Manufacturers  a fu yn y sesiwn: “Calonogol o gryno, hawdd i’w ddeall a hollol ddi-lol. Dyma’n union beth sydd ei angen arnaf i ddatblygu ein busnes gweithgynhyrchu Cymreig ni. Dwi’n methu aros tan fis Medi pan allaf fynd i’r afael â’r gwaith cwrs a dechrau ailddefnyddio fy ymennydd.”

Dywedodd Graham Howe, Prif Gymrawd Ymchwil a Darlithydd i MADE Cymru: “Roedd y sesiwn Cwestiwn ac Ateb yn gyfle gwerthfawr i ni siarad â gweithgynhyrchwyr ac ateb rhai o’u cwestiynau. Rydyn ni wedi cael llwyth o ymholiadau am y lleoedd wedi eu hariannu sydd ar gael – mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio’n benodol ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu Cymru – gallwch chi ddefnyddio’r hyn ddysgoch chi ddydd Gwener yn eich gwaith ddydd Llun!”

Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi eu hariannu gan Ewrop er mwyn llywio sefydliadau trwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwilio a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio.

Cynhelir y cyrsiau (sydd wedi eu hardystio gan PCDDS) gan arbenigwyr profiadol o’r diwydiant ac maen nhw’n cynnwys:

  • Diwydiant 4.0 Gweithgynhyrchu Uwch
  • Gwella Parhaus gyda Diwydiant 4.0
  • Rheoli Arloesedd

Rydyn ni’n mynd i ychwanegu adran Cwestiwn ac Ateb fanylach ar ein gwefan yn fuan iawn, ond dyma rai o’r cwestiynau mwyaf poblogaidd o ddydd Mawrth:

Ble a phryd mae’r cwrs yn cael ei gynnal? Mae’r elfennau a addysgir yn cael eu darparu’n fyw ac ar-lein gyda dysgu cyfunol bob prynhawn Gwener a dyddiadau dechrau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

A all unrhyw wneud y cwrs neu a oes angen cymwysterau penodol i gael mynediad? Gellir asesu gofynion mynediad yn unigol a bydd profiad blaenorol yn cael ei ystyried. Ar gyfer y modiwl Gwella Parhaus Lefel 5 gyda Diwydiant 4.0, mae cymhwyster o leiaf lefel 3 yn ddymunol. Cysylltwch â ni a gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’n Darlithwyr.

Beth yw’r meini prawf cymhwysedd i gael nawdd? Mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yng Nghymru, neu fel cyflogai mae’n rhaid eich bod chi’n byw yng Nghymru. Nid oes yn rhaid i’r cwmni fod yn BBaCh – mae cwmnïau mawr a micro hefyd yn gymwys. Mae rheolau De Minimus yn berthnasol – am gymorth neu eglurhad cysylltwch â ni, os nad ydych chi’n gymwys i gael nawdd, gallwch chi ymuno â’r rhaglen ond bydd cost.

Ai dim ond damcaniaeth academaidd sydd yn y cwrs? Na, mae’n seiliedig ar waith. Rydyn ni eisiau addysgu cynnwys i chi y gallwch chi ei ddefnyddio yn eich sefydliad cyn gynted â phosibl.

Beth mae mynd fel y mynnoch yn ei olygu? Mae mynd fel y mynnoch yn eich galluogi chi i ddechrau a gadael ar bwyntiau mynediad a gadael diffiniedig.

Os mai dim ond ar gyfer cyfnod cyfyngedig mae’r nawdd, beth sy’n digwydd os ydw i’n cofrestru ar gwrs hirach? Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau hirach, e.e. cwrs meistr llawn, mae’r cynnig o nawdd llawn yn talu am y cwrs waeth pa mor hir mae’n ei gymryd i chi ei gwblhau.

Oherwydd y galw, bydd sesiwn Cwestiwn ac Ateb arall ddydd Mawrth 7 Gorffennaf am 9:30am. I gofrestru ymlaen llaw, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://zoom.us/meeting/register/tJIqfuGqrzMqGdbeWkOqEXTcS0gEGN7oQo7U

Os hoffech chi siarad â ni cyn hynny neu os hoffech chi eglurhad ar yr uchod, mae croeso i chi e-bostio MADE@uwtsd.ac.uk neu lenwi’r ffurflen gysylltu isod.