Cwmnïau Gweithgynhyrchu mawr yn cefnogi lansio MADE – Prosiect Uwchsgilio Technolegau Tarfol

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Daeth arweinwyr  gweithgynhyrchu yng Nghymru at ei gilydd yn Ffatri Ford, Pen-y-Bont ar Ogwr ddydd Gwener, Ebrill 5ed, i groesawu lansio’r prosiect MADE (Gweithgynhyrchu ar gyfer Peirianneg Dylunio Uwch). Mae’r gyfres hon o brosiectau wedi eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu darparu gan Ganolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol (CBM) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS). Ei bwriad yw cydweithio gyda Busnesau Bach a Chanolig o fewn diwydiant i ddiogelu eu gweithrediadau i’r dyfodol, rwy uwchsgilio a thrwy fabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch.

Mae’r prosiect MADE, sy’n cael ei roi ar waith nawr am 36 mis, yn cael ei gynnig i sefydliadau sy’n gymwys fel portffolio integredig, i helpu gweithgynhyrchwyr Cymru i ddeall yr heriau sy’n eu hwynebu a sut y gallant ymateb iddynt, drwy ddefnyddio technolegau tarfol a hyfforddiant sy’n addas ar gyfer eu busnesau.

“Mae’n bleser gennym lansio prosiect MADE yn un o brif safleoedd gweithgynhyrchu Cymru – Ffatri Injans Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae’n gyfnod heriol i weithgynhyrchu yng Nghymru gyda llawer o ansicrwydd o’n blaenau. Bydd y broses Brexit yn arwain at newidiadau economaidd, rydyn ni’n gweld newidiadau cyflym iawn, sy’n berthnasol i weithgynhyrchu, yn datblygu ym myd technoleg, ac mae newidiadau sylfaenol yn digwydd i batrymau gwaith a staffio. 
 
“Mae menter MADE yn cynnig cyfres o brosiectau cydweithredol, yn darparu offer hanfodol i weithgynhyrchwyr sy’n benderfynol o fod wedi eu harfogi’n dda at y dyfodol. Rydym eisoes yn siarad gyda gweithgynhyrchwyr o bob math ynghylch sut y gall prosiect MADE eu helpu nhw. Rydym yn annog gweithgynhyrchwyr i gysylltu â thîm MADE er mwyn canfod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd er budd eu gweithgareddau.”

Meddai Dirprwy Is-Ganghellor PCDDS, yr Athro Robert Brown

“Mae’n wych gweld prosiect MADE yn cael ei wireddu yng Nghymru ac rydym am annog arweinwyr busnes blaengar i gofleidio’r cyfleon y mae’n ei gynnig. Mae’n bwysig bod perchnogion busnesau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eu sefydliadau yn ystwyth, yn fodern a’u bod yn gallu achub y blaen ar newidiadau fel hyn yn hytrach na dim ond bod yn ymatebol a cheisio dal i fyny.

Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein gweithluoedd yn hyddysg yng nghymhlethdodau technolegau tarfol. Mae’n hanfodol i iechyd a bywiogrwydd ein busnesau a’n heconomi a byddwn yn annog busnesau i gymryd mantais o’r adnoddau pwysig sy’n cael eu gwneud ar gael gan raglen MADE.”

Meddai Mark Thomas, Rheolwr Ardal Gweithgynhyrchu a Gweithfeydd Peirianneg sy’n gweithio o Ben-y-bont ar Ogwr

“Mae’n bleser gan y Brifysgol lansio prosiect MADE ar safle un o brif gyflogwyr y wlad. Mae gan PCDDS draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda diwydiant, gan ddarparu rhaglenni a gweithio mewn cydweithrediad i gwrdd â’u hanghenion. Bydd y rhaglenni sy’n cael eu cynnig drwy brosiect MADE yn ein galluogi i weithio gyda’r sector gweithgynhyrchu i ymateb i heriau technolegol y pedwerydd chwyldro diwydiannol ac i gefnogi’r sector i wneud y mwyaf o gyfleoedd sy’n cael eu cynnig drwy arloesedd o’r fath.
 
Mae’r Brifysgol yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru, wrth sicrhau cyllid yr UE, i helpu cwmnïau i hybu eu cystadleurwydd a’u cynhyrchedd er mwyn sicrhau twf a swyddi, yn enwedig yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, lle mae mawr angen am fuddsoddiad o’r fath.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor PCDDS

Gall gweithgynhyrchwyr yng Nghymru sydd am gael gwybod rhagor fynd i: madeCYMRU.org.uk

Mae MADE wedi’i ddylunio i gyd-fynd â gweithgareddau ERDF sy’n bodoli eisoes drwy ffocysu ar anghenion uniongyrchol diwydiant yng Nghymru, gyda’r prosiectau MADE yn rhannu yn dri maes:

ADE: PeiriannegDylunio Uwch 

Wedi’i ddylunio i hwyluso cydweithio rhwng y CBM a chwmnïau gweithgynhyrchu cymwys o fewn Cymru gyfan, er mwyn gwella a chynyddu capasiti bob cwmni i fabwysiadu a defnyddio technolegau gweithgynhyrchu uwch. Mae Peirianneg Dylunio wedi ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

I4.0: Diwydiant 4.0

Mae’r agwedd yma o MADE ar gael i gwmnïau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd ac mae wedi’i ddylunio i uwchsgilio gweithwyr proffesiynol o fewn diwydiant er mwyn deall, addasu a chymryd mantais o’r cyfleon sydd ar gael drwy newid technolegol tarfol cyflym.  Nod I4.0 yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol sy’n gallu deall effaith I4.0 ar eu cwmnïau, ar yr economi ehangach ac ar eu gyrfaoedd eu hunain, ac i’w harfogi gyda’r sgiliau angenrheidiol i helpu siapio’r ymateb i’r newid hwn o fewn eu cwmnïau eu hunain. Mae Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0: Cymru yn cael ei gyllido gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

IIM: Gradd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol

Mae’r agwedd hon o MADE ar gael i’r rhai yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd a’r nod yw cynyddu’r nifer o bobl yn y gweithlu sydd â’r sgiliau thechnegol ar lefel canolraddol ac uwch. Mae’r rhaglen yn anelu at gynhyrchu rheolwyr gyda golwg ryngwladol sy’n deall sut i ddod â nwyddau a gwasanaethau arloesol i’r farchnad, sut y gall cwmnïau gyflwyno a gwneud y mwyaf o arloesedd, a sut y gellir adnabod a gwireddu cyfleoedd masnachol newydd. Bydd rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiectau IIM a Diwydiant I4.0 hefyd yn cael cynnig cwrs hyfforddi pwrpasol yn seiliedig ar eu hanghenion a’u diddordebau, yn ogystal ag anghenion eu cyflogwyr, yn cynnwys dysgu ar lefel uwch yn arwain at ddyfarniad Prifysgol. Mae’r Radd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol yn cael ei chyllido gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru/

Mae’r prosiect Peirianneg Dylunio Uwch yn ffocysu ar helpu Busnesau Bach a Chanolig mewn rhwydweithiau cadwyn gyflenwi i wireddu buddion technolegau peirianneg  uwch a chydweithio ar brosiect prototeipio technoleg i helpu gyda mabwysiadu’r technolegau hynny. Mae hyn yn ategu’r rhaglen Astute 2020 sy’n ymgysylltu â chwmnïau sydd wedi adnabod angen o ran ymchwil y gellir ei fapio ar Her Ymchwil mewn tri maes allweddol o Uwch Dechnoleg Deunyddiau, Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol neu Beirianneg Systemau Gweithgynhyrchu.