Dewch i gael paned gyda thîm MADE Cymru!

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae tîm MADE Cymru wedi trefnu sesiwn ‘Holi ac Ateb’ anffurfiol er mwyn ateb cwestiynau am ein cyrsiau dysgu hyblyg:

• Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0

• Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0

• Rheoli Arloesi

Ers cyhoeddi bod y cyrsiau bellach yn cael eu HARIANNU’N LLAWN (yn amodol ar gymhwysedd) rydym wedi rhyfeddu at yr ymateb cadarnhaol a gafwyd gan gynhyrchwyr o Gymru sydd â diddordeb mewn lleoedd. Er mwyn ateb yr holl gwestiynau, rydym wedi trefnu gweminar Zoom anffurfiol ddydd Mawrth 16 Mehefin am 11am – 12pm. Mae’n gyfle i sefydliadau ddysgu mwy am y cyrsiau, cymhwysedd a’r tîm.

Er mwyn mynychu, cofrestrwch ymlaen llaw trwy’r ddolen isod. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda gwybodaeth am sut i ymuno â’r gweminar.

Mae MADE yn gyfres o brosiectau wedi’u hariannu gan yr UE a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant trwy ei Chanolfan Gweithgynhyrchu Swp Uwch (CBM) sydd wedi’u teilwra’n arbennig er mwyn hybu cynhyrchiant busnesau bach a chanolig ac unigolion yng Nghymru drwy gysylltu â grym technolegau aflonyddgar.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk

https://zoom.us/meeting/register/tJYvcuugqjssHteDqCWKdEt4Kz4WFvm3m438