Rheoli Arloesedd Rhyngwladol yn croesawu Dr Roger Griffiths o Brifysgol Heriot-Watt (campws Dubai)

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Yr hydref hwn, bydd carfan gyntaf myfyrwyr 2019 sy’n astudio’r rhaglen MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol yn cwblhau eu modiwlau terfynol ar yr MSc. Mae hyn yn cynnwys y maes pwnc sy’n rhoi teitl i’r rhaglen – Rheoli Arloesedd Rhyngwladol.

Drwy ddod â safbwynt gwirioneddol ryngwladol, mae ein rhaglen yn wahanol i raddau Meistr tebyg eraill sydd ar gael. Cyflawnwyd hyn drwy wahodd arbenigwyr arloesi o bob cwr o’r byd i gymryd rhan yn ein sesiynau darlithio, gan ddod â’u safbwynt rhanbarthol unigryw ar Reoli Arloesedd gyda hwy.

PYn bersonol, rwy’n credu ei bod yn bwysig i’n myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o’r gwahaniaethau a’r agweddau a allai fod gan unrhyw gwmni neu sefydliad arloesol pan fo lleoliad daearyddol ynghyd ag unrhyw gymhellion neu gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol neu lywodraeth hefyd yn rhan o’r hafaliad.

Yn ein sesiwn ddarlledu fyw ddydd Gwener 11 Medi, bydd ffrind da iawn a chyn-gydweithiwr i mi, sef Dr Roger Griffiths, yn ymuno â ni o Dubai. Mae Roger wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o randdeiliaid Yr Emiraethau Arabaidd Unedig (UAE) sy’n cyfrannu at yr ecosystem ymchwil, busnes a menter. Mae Roger yn aelod allweddol o’r tîm datblygu busnes byd-eang ar gampws Heriot-Watt yn Dubai.

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs byrrach Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Alan Mumby, Darlithydd, Rheoli Arloesedd Rhyngwladol

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael rhagor o wybodaeth.

Mae MADE Cymru yn gyfres o raglenni sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.