MADE Cymru a CBM Cymru yn rhannu eu harbenigedd i helpu ag ymateb GIG Cymru i Covid-19.

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Yr hyn yw MADE Cymru yw cyfres o brosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a ddarperir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant trwy ei chanolfan ymchwil a dylunio arloesol, sef Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM).

Yn ystod pandemig Covid-19, maent wedi bod yn darparu cymorth i helpu ag ymateb GIG Cymru i Covid-19. Wrth i’r argyfwng dyfu, mae’r GIG yn Ne Cymru yn trin nifer cynyddol o gleifion mewn ymateb i Covid-19, ac mae angen cyflenwadau ychwanegol arno mewn meysydd allweddol, er enghraifft peiriannau anadlu ar gyfer cleifion a chyfarpar diogelu personol ar gyfer staff.

Mae tîm ymroddedig o Ddylunwyr a Pheirianwyr o CBM a MADE Cymru yn cymhwyso uwch-dechnolegau gweithgynhyrchu i nifer o brosiectau hanfodol er mwyn cefnogi gwaith rheng flaen y GIG.

Mae Luca Pagano, Uwch-beiriannydd Ymchwil yn MADE Cymru, wedi bod yn cydweithredu ag un o gydlynwyr yr ymateb lleol, Paul Boyce, a Dinas a Sir Abertawe, i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i ysbytai lleol. Yn ddiweddar, aeth â mygydau wyneb diogelu a grëwyd gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D i Ysbyty Treforys.

Dywedodd Luca: “Mae tîm MADE Cymru yn helpu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i fabwysiadu uwch-dechnolegau gweithgynhyrchu i wella cynhyrchiant. Yn y senario bresennol, rydym wedi llywio ein galluoedd yn rhannol i helpu’r GIG yng Nghymru i frwydro yn erbyn Covid-19. Mae ein harbenigedd a’n technoleg yn ein galluogi i ddatblygu cysyniadau er mwyn cynhyrchu ar raddfa lawn yn gyflym, sy’n hanfodol mewn sefyllfa lle mae amser yn ystyriaeth dyngedfennol. Mae’n galonogol gweld cynifer o grwpiau eraill yn yr ardal yn cydweithredu ac yn cydweithio i greu effaith gadarnhaol.”

Dywedodd yr Athro Robert Brown, Cyfarwyddwr CBM Cymru: “Yr her allweddol sy’n wynebu sector gweithgynhyrchu Cymru yw symud yn gyflym ac yn effeithlon i ymateb i frys y sefyllfa. Mae hon yn argyfwng unigryw ac mae’n rhaid i ni gydweithio i ddarparu’r cyfarpar iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn i gefnogi arwyr ein GIG.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod neu i sgwrsio am MADE Cymru, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.