MADE Cymru yn dyblu ei niferoedd myfyrwyr

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae’r ail garfan o fyfyrwyr i ymuno â chyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a Rheoli Arloesedd Rhyngwladol MADE Cymru wedi dechrau. Mae’r cyrsiau, sy’n cael eu hardystio gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi dyblu nifer eu myfyrwyr ers lansio yn 2019.

Mae holl gyrsiau MADE Cymru yn cael eu darparu drwy ddysgu cyfunol ar-lein (ar brynhawn dydd Gwener), gan ei gwneud yn ddelfrydol i fyfyrwyr astudio ochr yn ochr â’u swyddi arferol. Mae opsiynau gwahanol hefyd o fodiwlau byr unigol i Radd Meistr lawn fel y gall fod yn hyblyg i gyd-fynd â gwahanol anghenion ac ymrwymiadau.

Daw’r myfyrwyr o amrywiaeth eang o sectorau gweithgynhyrchu bach a mawr yng Nghymru gan gynnwys modurol, dylunio cynnyrch, gwydr pensaernïol a deunyddiau. Maen nhw’n awyddus i gael gwybod mwy am dechnolegau aflonyddgar a sut y gallan nhw gymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu i’w sefydliadau eu hunain i helpu diogelu eu swyddi a’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n gweithio, ac mae e-ddysgu yn benodol yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o weithredu newid cynaliadwy i hybu cynhyrchiant, ysbryd staff ac economi Cymru. Mae’n creu diwylliant o ddysgu cefnogol.

Yn fwy na hynny, ar hyn o bryd, mae’r cyrsiau isod yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer myfyrwyr cymwys:

  • Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Tystysgrif 40 credyd Lefel 5)
  • Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (MSc Lefel 7) – opsiwn i astudio modiwlau unigol os dymunir
  • Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)
  • Rheoli Arloesedd Rhyngwladol (MSc Lefel 7)

Dywedodd Helen Byrne, sy’n gweithio yn Energizer Auto UK, “Ymunais â chwrs MADE Cymru i ddatblygu fy ngwybodaeth am egwyddorion Six Sigma a Darbodus yn fanylach ar ôl cwblhau hyfforddiant Yellow Belt eisoes. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i mi gan fy mod yn gweithio’n llawn amser, felly mae cael dosbarthiadau bob dydd Gwener yn fy helpu gyda’m cydbwysedd bywyd a gwaith a hefyd yn caniatáu i mi gymhwyso’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i’m swydd bob dydd. Rwy’n gobeithio defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu o ran lleihau gwastraff a chynyddu cynhyrchiant i helpu gwella prosesau Caffael, y Gadwyn Gyflenwi a Gweithgynhyrchu yn y tymor hir.”

Meddai Michael Bowen, myfyriwr MADE Cymru sy’n gweithio ym Marelli yn Llanelli, “Mae sut rydyn ni’n gwella, arloesi ac ysgogi newid mewn busnes yn allweddol i sicrhau cynaliadwyedd ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r hinsawdd bresennol wedi dangos bod angen inni fod yn wydn ac ymrwymo i’n datblygiad personol ein hunain. Arweinir rhaglen MADE Cymru gan arbenigwyr y diwydiant ac mae’r ffaith ei bod ar-lein yn golygu y gallaf ei ffitio o gwmpas fy ngwaith. Mae wedi’i chynllunio i fod yn ymarferol er mwyn i mi allu defnyddio’r dysgu yn fy swydd ar unwaith.”

Meddai Graham Howe, Prif Gymrawd Ymchwil a Darlithydd MADE Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r nifer sy’n manteisio ar gyrsiau eleni. Mae disgwyl i’n carfan nesaf ddechrau ym mis Ionawr a thros y blynyddoedd nesaf rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda chydweithwyr yn sector gweithgynhyrchu Cymru i hyrwyddo eu gyrfaoedd a gwella’r defnydd o dechnolegau Diwydiant 4.0 yng Nghymru.”

Llenwch y ffurflen CYSYLLTU isod i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n cyrsiau.

Mae MADE Cymru yn gyfres o raglenni sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 gydag ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i ariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.