Mae Drindod Dewi SANT & MADE Cymru yn dathlu gweithgynhyrchu yng Nghymru gydag uwchgynhadledd y diwydiant

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Cynhadledd Diwydiant MADE Cymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithgynhyrchu yng Nghymru, mae MADE Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau 8-10 Mehefin i hysbysu, ymgysylltu ac ysbrydoli busnesau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn o adferiad yn dilyn Covid. Arweinir yr holl ddigwyddiadau gan siaradwyr allweddol yn y diwydiant ac maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Gallwch gofrestru ymlaen llaw ar gyfer cymaint ag yr hoffech fynychu trwy’r dolenni isod.

8 MEHEFIN – diwrnod un – “Meddwl chwim”

Sesiwn 1, 9.30am – 11.00am 

“Lansio’r uwchgynhadledd a golwg ar weithgynhyrchu yng Nghymru yn dilyn y pandemig”

Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi goroesi ac, mewn sawl achos, wedi ffynnu yn ystod pandemig Covid 19. Mae’n dyst i feddylfryd chwim ein busnesau sydd wedi addasu drwy chwilio am brosesau, cynhyrchion a thechnolegau newydd. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol yn awr, dyma James Davies, Diwydiant Cymru, a’i fyfyrdodau a’i fewnwelediadau ar sut y byddwn yn symud ymlaen yng Nghymru.

James Davies, Cadeirydd Gweithredol, Diwydiant Cymru

Barry Liles OBE, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Sesiwn 2, 12-1:30pm 

“Hybu economi Cymru – Pŵer Cydweithio” 

Dwy astudiaeth achos sy’n dangos sut y gall Diwydiant ac Academia gydweithio i gael effaith economaidd gadarnhaol ar ddiwydiant yng Nghymru.

Tim Hawkins, Rheolwr Gyfarwyddwr, Markes International
FuelActive

Luca Pagano, Sam Minshell, Akash Gupta & Alan Mumby, MADE Cymru, PCYDDS

9 MEHEFIN – diwrnod dau – “Gweithredu creadigol”

Sesiwn 1, 9.30am – 11.30am 

“Meddylfryd Cylchol: Beth yw’r Economi Gylchol a pha wahaniaeth y gall ei wneud i chi?”

Mae Eoin Bailey yn trafod yr hyn y gall bod ag economi gylchol ei olygu i fusnesau bach a chanolig a’r angen cynyddol i fusnesau fabwysiadu atebion cynaliadwy. Darganfyddwch yr effaith enfawr y gall hyn ei chael drwy wrando ar rai sefydliadau sydd wedi cymryd agwedd economi gylchol at eu modelau busnes. Gan gynnwys trafodaeth bord gron i roi hwb cychwynnol i ambell syniad ar gyfer cynllun gweithredu ar sut y gallwn ddatblygu’r ddadl ar yr economi gylchol. Yn benodol, sut y gallwn gynnwys busnesau bach a chanolig yn y meddylfryd cylchol?

Eoin Bailey, Rheolwr Arloeseddn, Celsa Steel UK Ltd

Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, PCYDDS

Julia Chesney-Roberts, Rheolwr Masnachol, Riversimple Movement Ltd

Angus Grahame, Sylfaenydd Splosh

Sesiwn 2, 2:00pm – 3:30pm

“Dull darbodus yn gyntaf ac yna digidoleiddio” 

Ambell mewnwelediad ymarferol ar sut y gallai mentrau gwella parhaus ddechrau gyda dull darbodus cyn ystyried technolegau Diwydiant 4.0.

James Davies, Cadeirydd Gweithredol, Diwydiant Cymru

Daryl Powell, awdur Darbodus sydd wedi ennill sawl gwobr, Prifysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg Norwy

Jacques Bonfrer, Cyd-Sylfaenydd ac Arweinydd Tîm, Bot-Hive

Richard Morgan, Ysgol Peirianneg, PCYDDS

Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, PCYDDS

10 MEHEFIN – diwrnod tri – “Etifeddiaeth wydn”

Sesiwn 1, 9.30am – 11.00am

“Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru?”

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg cryno ar y cyllid, cyfleoedd Ymchwil a Datblygu, grantiau a chymorth arall sydd ar gael i’ch busnes.

Banc Datblygu Cymru

Chris Probert, Arbenigwr Arloesedd, Llywodraeth Cymru

Geraint Jones, Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth, KTN

Sesiwn 2, 2.00pm – 4.00pm

“Cymhorthfa MADE Cymru”

Agor y drws i arbenigedd diwydiant mewn prifysgolion. Yn ogystal â sesiynau eraill yr Uwchgynhadledd, byddai tîm MADE Cymru a’u cydweithwyr wrth eu bodd yn cynnig cyfle i chi gyfarfod (mewn grŵp neu’n unigol) i wneud sylwadau, trafod, cyfeirio a/neu gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn. Boed hynny i drafod uwchsgilio, Ymchwil a Datblygu, bwrw golwg dros ddyluniadau/syniadau cynnyrch newydd, i rannu cyngor neu i gael sgwrs!

Anfonwch eich manylion cyswllt at MADE@uwtsd.ac.uk – gan gynnwys brawddeg am yr hyn yr hoffech ei drafod, slot amser delfrydol ac fe wnawn ni’r gweddill (yn hapus i lofnodi NDAs cyn cyfarfod os oes angen).

Am wybodaeth, ffoniwch 01792 481199, e-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk neu ewch i www.madecymru.co.uk

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.