O ddatblygu cynnyrch i farchnata, pwy yw ein myfyrwyr arloesi?

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Nid yw’r cysyniad o Reoli Arloesedd wedi’i gyfyngu i sector penodol, nac yn wir rôl benodol o fewn cwmni – mae ar gyfer unrhyw un. Er mwyn i fusnesau ffynnu, mae angen diwylliant cryf o arloesi ar draws pob sector a rôl.

Mae’r garfan bresennol o fyfyrwyr yn adlewyrchu’r meddylfryd hwn ac rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Markes International o Ben-y-bont ar Ogwr a gofrestrodd bedwar o’u gweithwyr ar y cwrs byr Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd.

Mae Markes International yn arwain y byd ym maes technoleg ar gyfer datsugno thermol dadansoddol ar gyfer cromatograffeg nwy – technoleg sy’n samplu ac yn crynhoi cyfansoddion organig anweddol lefel olrhain cyn eu chwistrellu i gromatograff nwy. Mae’n gwasanaethu cemegwyr mewn labordai dadansoddol ledled y byd mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau o fonitro amgylcheddol, cynhyrchion modurol ac adeiladu, i fwyd a diod, persawr a gofal iechyd.

Mae Markes International a’i chwaer gwmni SepSolve Analytical Ltd yn rhan o Schauenburg Analytics Ltd. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio rhwydwaith o ganolfannau technegol Schauenburg Analytics ledled y byd, gan wasanaethu anghenion cwsmeriaid nid yn unig drwy ddarparu offer ac offerwaith, ond hefyd drwy eu sylfaen wybodaeth gyfunol, partneriaethau a chydweithio â sefydliadau academaidd byd-enwog.

Cawsom sgwrs â’r pedwar myfyriwr presennol o Markes International i ddarganfod sut mae’r cwrs yn mynd hyd yn hyn:

Nicolas van Noorden, Rheolwr Rhaglen Farchnata

“Bellach mae gennyf ddealltwriaeth ddyfnach o arloesedd cynnyrch a’r angen i gofleidio arloesedd. Mae angen ystyried, nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau. Wrth symud ymlaen, gellid dadlau y byddai cael dull mwy ystyriol o arloesi yn cefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth gorfforaethol – ac yn helpu i roi hwb i’r biblinell gynnyrch newydd, gan gefnogi twf.”

Naomi Mann, Rheolwr Cynnyrch Iau – Cyflenwadau

“Darparodd ein haseiniad grŵp lwyfan i bartneru â myfyrwyr mewn gwahanol ddiwydiannau i mi – roedd yn wych dysgu o’u profiadau nhw a dod i adnabod rhai unigolion diddorol. Mae’r grŵp yn hynod gyfeillgar ac yn cynnal trafodaethau diddorol yn ystod darlithoedd. Mae tîm MADE Cymru yn bleser gweithio â nhw ac maen nhw wedi bod wrth law i helpu gydag ymholiadau sy’n ymwneud â’r cwrs ei hun, neu hygyrchedd cyffredinol. Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y cwrs.”

Ricci Underhill, Arbenigwr Datblygu Cynnyrch

“Rwyf wedi mwynhau’r profiad dysgu, mae ei natur ‘ar-lein’ yn sicr yn ei wneud yn fwy hygyrch i nifer fwy o bobl. Mae wedi atgyfnerthu fy nghred y byddai cyfathrebu, deall a chydweithredu mwy effeithiol rhwng cydweithwyr ar draws gwahanol feysydd y busnes o fudd mawr i’r sefydliad cyfan. Credaf hefyd, ym maes datblygu cynnyrch, y bydd mwy o ymwybyddiaeth/gwerthfawrogiad masnachol ochr yn ochr â’r arbenigedd technegol yn arwain yn y pen draw at ddatblygu cynhyrchion mwy arloesol a llwyddiannus.”

Jessica Berger, Rheolwr Cynnyrch – offerynnau datsugno thermol

“Mae’r profiad dysgu wedi bod yn wych. Mae wedi golygu llawer mwy o waith nag yr oeddwn wedi’i ragweld i ddechrau gyda chryn dipyn o ddarllen. Ond, rwyf wedi mwynhau dychwelyd i’r meddylfryd astudio ac mae’r cynnwys wedi bod yn berthnasol ac yn ddiddorol. Rwy’n hoffi ei fod ar-lein gan nad oes rhaid i mi boeni am deithio, gofal plant, na chymryd amser ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith (ar wahân i’r ddwy awr/wythnos ar gyfer y ddarlith).Yn dilyn y cwrs hwn, hoffwn wneud mwy o’r modiwlau o’r Radd Meistr lawn, hyd yn oed gwblhau’r cwrs llawn o bosibl.”

Meddai Alan Mumby, darlithydd Rheoli Arloesedd, “Dydw i ddim yn credu bod gan arloesedd gartref rhagnodedig, nid yw’n perthyn i unrhyw ran neu adran benodol o fusnes neu sefydliad. Er hynny, credaf y dylai cwmnïau sy’n ceisio cael effaith sylweddol neu wella’r hyn y maent yn ei gynnig i’w cwsmeriaid, a hynny’n gynnyrch neu’n wasanaeth, sicrhau bod arloesi wrth wraidd y sefydliad. Gall y theorïau a’r strategaethau rydym yn eu haddysgu gael eu hymgorffori drwy bob adran, o syniadau dylunio cysyniadau i farchnata ac ymgysylltu â busnes. Mae ein myfyrwyr presennol yn dod o ystod amrywiol iawn o sectorau a chefndiroedd – i gyd wedi’u huno gan eu hawydd i gael effaith gadarnhaol ar eu sefydliad. Mae wedi bod yn ysbrydoledig iawn gweithio gyda myfyrwyr fel Ricci, Jessica, Nick a Naomi – maent wedi ymgysylltu’n wirioneddol â’r cwrs ac wedi dod ag agwedd gadarnhaol, brwdfrydedd ac arbenigedd arbenigol at y bwrdd.”

Mae MADE Cymru yn cynnig dau ddewis i’r rhai sydd am astudio Rheoli Arloesedd. MSc llawn Rheoli Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd. Mae’r modiwlau ar-lein ac wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithio ac yn ymarferol iawn.

Pob un wedi’i ardystio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

MADE@UWTSD.ac.uk

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cyflwynir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant