Ein rhaglen
Ni ddylid byth gadw arloesedd i un adran o gwmni gweithgynhyrchu. Er mwyn i fusnesau ffynnu, mae angen diwylliant cryf o arloesi ym mhob rôl, o beirianneg a logisteg i farchnata a chyllid. Gyda’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr eisoes yn weithgar mewn rolau mewn busnesau a sefydliadau yng Nghymru, rydym wedi cynllunio ein rhaglen i fod yn hyblyg ac yn addasadwy i ddiwallu anghenion cyflogwyr.
Rydym yn cynnig dau amrywiad o’r cwrs Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol: cwrs MSc cyflawn dwy flynedd a hanner i’r rhai sydd wedi ymrwymo i ennill cymhwyster meistr llawn, a chwrs byrrach 32 wythnos sy’n cyddwyso’r wybodaeth ymarferol bwysicaf yn ddau fodiwl.
Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)
Yn y rhaglen 32 wythnos hon, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl: Cyflwyniad i Arloesi a Rheoli Datblygu Cynnyrch Newydd. Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth drylwyr ac ymarferol o sut y gellir cymhwyso arloesedd i bob agwedd ar fusnes modern.
Rheoli Arloesedd Rhyngwladol
(MSc Lefel 7)
Mae ein rhaglen Meistr lawn yn addas i fyfyrwyr sy’n awyddus i ennill cymhwyster academaidd cyflawn. Mae’r cwrs dwy flynedd a hanner hwn yn cynnwys modiwlau ar fethodolegau ymchwil, cyllid a chynllunio a thraethawd, ochr yn ochr â’r ddau fodiwl a geir ar ein rhaglen Gwella Busnes fyrrach.
A yw’r cwrs Rheoli Arloesedd yn addas i mi?
Ydych chi’n gweithio i gwmni gweithgynhyrchu yng Nghymru? A ydych eisiau datblygu eich gyrfa drwy ddysgu hanfodion arloesi ar raglen gefnogol sydd wedi’i hariannu’n llawn? Efallai mai cwrs Rheoli Arloesedd yw’r ateb.
Rheoli Arloesedd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac fe’i darperir gan PCYDDS
Lawrlwythwch gopi o’r cynllun sy’n cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd:
Taflen Wybodaeth
Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)
RHEOLI ARLOESEDD
(MSC LEFEL 7)
RHAN-AMSER
LAWRLWYTHO Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)
GWELLA BUSNES GYDA RHEOLI ARLOESEDD
(TYSTYSGRIF LEFEL 7 40 CREDYD)
CYSYLLTWCH ag aelod o’r tîm cyn cofrestru
GWNEWCH GAIS NAWR Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)
RHEOLI ARLOESEDD
(MSC LEFEL 7)
RHAN-AMSER
CYSYLLTWCH ag aelod o’r tîm cyn cofrestru
GWNEWCH GAIS NAWR Eisoes yn cymryd rhan yn y cwrs Meistr Arloesi Rhyngwladol?
MYNEDIAD I AMGYLCHEDD DYSGU RHITHWIR PCYDDS
MYNEDIADSiaradwch â ni
I ddysgu mwy am ein gradd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol neu unrhyw un o’r rhaglenni a gynigir gan MADE Cymru, cysylltwch heddiw.