Yn ogystal â bod o fudd i gwmnïau a’u gweithluoedd, mae’r cynllun yn fuddsoddiad yn nyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae ein rhaglen yn galluogi busnesau yng Nghymru i fanteisio ar dechnolegau newydd ac uwch fel gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D) sydd ar gael o ganlyniad i Ddiwydiant 4.0
Ein proses
Mae tri chyfnod allweddol yn y rhaglen ADE. Dyma sut mae’n gweithio.
Mae’r cam cyntaf yn cynnwys edrych yn fanwl ar eich busnes, gan ddadansoddi lle y gellid cyflwyno technolegau uwch i gynyddu effeithlonrwydd neu wella ansawdd cynnyrch. Rydym yn asesu a fydd eich cwmni’n gallu manteisio’n llawn ar Beirianneg Dylunio Uwch – os oes opsiynau mwy addas ar gael i chi, byddwn yn eich cyfeirio at y rhain. Os ydyn ni’n nodi rhywbeth y gallwn eich helpu ag ef, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddiffinio cwmpas y prosiect, gan sicrhau ein bod yn mynd ati i ymchwilio a datblygu mewn ffordd sy’n addas i’ch cwmni.
Mae’r ail gam yn adeiladu ar y cwmpas a ddiffiniwyd gennym yng ngham 1, gan ymchwilio a datblygu prototeip. Drwy ddefnyddio’r technolegau uwch sydd ar gael yn ein canolfan Ymchwil a Datblygu, byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio sut y gallai deunyddiau, offer a thechnegau newydd gael effaith gadarnhaol ar eich busnes a chynyddu effeithlonrwydd yn eich proses weithgynhyrchu. Yn dibynnu ar natur y prosiect gallai’r cam hwn gymryd rhwng chwe wythnos a chwe mis i’w gwblhau a bydd gan gwmnïau prototeip ffisegol.
Wrth aros am ganlyniad y ddau gam cyntaf, a chanfyddiadau eich prosiect prototeip, gallwn hefyd eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol yn eich busnes. Yng ngham 3 gallwn gydweithio â chi i weithredu’r dechnoleg, y broses neu’r cynnyrch newydd yn ateb masnachol hyfyw. Gallwn eich cefnogi i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnoch, cyrchu/cynghori ar dechnolegau neu eich cyflwyno i bartneriaid a all helpu i ddod â thechnolegau uwch i’ch proses weithgynhyrchu.
A yw fy musnes yn gymwys ar gyfer ADE?
Mae ymgeiswyr delfrydol ar gyfer ein rhaglen Peirianneg Dylunio Uwch yn cynnwys cwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru sydd eisoes yn cynhyrchu cynhyrchion llwyddiannus ac sy’n agored i archwilio technolegau, cynhyrchion a phrosesau newydd.
Proses gydweithredol yw ADE. Er nad oes arnom angen cyfraniad ariannol gan gwmnïau sy’n cymryd rhan, rydym yn disgwyl buddsoddiad o ran amser ac ymdrech – mae eich cyfranogiad a’ch mewnbwn yn rhywbeth sydd yn hynod werthfawr ac fe’i defnyddir hefyd fel tystiolaeth wrth gyfateb ein cyllid â busnesau.
Fel rhaglen a ariennir gan yr UE, rydym yn ofalus i ddewis cwmnïau a fydd yn elwa’n wirioneddol o weithio gyda ni yn unig. Fodd bynnag, rydym bob amser yn agored i ymholiadau newydd – hyd yn oed os gwelwn nad ydych yn gymwys, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cyfeirio at gyfle a allai helpu eich busnes i fanteisio ar dechnolegau gweithgynhyrchu uwch.
Lawrlwythwch gopi o’r cynllun sy’n cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd:
Siaradwch â ni
P’un a ydych yn gwybod mai ADE yw’r llwybr cywir i chi neu eich bod yn dal i ystyried eich opsiynau, cysylltwch â ni. Gall ein tîm eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o groesawu prosesau gweithgynhyrchu uwch yn eich busnes.