Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ein Rhaglen

Er mwyn gwir elwa o’r prosesau a’r offer trawsnewidiol sydd wedi ymddangos o ganlyniad i Ddiwydiant 4.0, mae’n hanfodol deall sut y gellir defnyddio’r technolegau newydd hyn mewn lleoliad masnachol. Gyda’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr eisoes yn gweithio mewn rolau mewn cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru, rydyn ni wedi cynllunio’n rhaglen i fod yn hyblyg ac ystwyth i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Rydyn ni’n cynnig tri amrywiad o’r Rhaglen Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0: cwrs MSc cyflawn i’r rhai sydd wedi ymrwymo i ennill cymhwyster meistr llawn, a’r dewis o ddau gwrs 32 wythnos byrrach (un ar Lefel 5 ac un ar Lefel 7) sy’n cyddwyso’r wybodaeth ymarferol bwysicaf yn ddau fodiwl.

Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 5)

Yn y rhaglen 32 wythnos hon, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl: Ansawdd Chwe Sigma Gwregys Gwyrdd a phrosiect grŵp. Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth drylwyr ac ymarferol o sut y gellir cymhwyso technolegau datblygedig Diwydiant 4.0 i bob agwedd ar weithgynhyrchu modern.

Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)

Yn y rhaglen 32 wythnos hon, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl: Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0 gyda dewis o naill ai Ddiwydiant 4.0 Uwch neu Ddylunio ar gyfer Diwydiant 4.0. Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth drylwyr ac ymarferol o sut y gall technolegau uwch Diwydiant 4.0 gynyddu effeithlonrwydd, sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl a sicrhau bod busnesau’n addas ar gyfer y dyfodol.

Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0
(MSc Lefel 7)

Mae ein rhaglen Meistr lawn yn addas i fyfyrwyr sy’n awyddus i ennill cymhwyster academaidd cyflawn. Mae’r cwrs dwy flynedd a hanner hwn yn cynnwys traethawd ac astudiaeth ddamcaniaethol fanwl o’r egwyddorion y tu ôl i Ddiwydiant 4.0. Os yw’n well gan fyfyrwyr astudio modiwlau Lefel 7 unigol (gan gynnwys Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0, Diwydiant 4.0 Uwch a Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0) yn hytrach na’r cwrs llawn, gellir darparu ar gyfer hyn hefyd.

A yw Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 yn addas i mi?

Ydych chi’n gweithio i gwmni gweithgynhyrchu yng Nghymru? Ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa drwy ddysgu am Ddiwydiant 4.0 ar raglen hyblyg a chefnogol? Yna efallai mai Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 yw’r ateb. Ar hyn o bryd mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys.

Cynlluniwyd ein rhaglen gan arweinwyr diwydiant profiadol sy’n deall yr heriau sy’n wynebu gweithgynhyrchwyr modern. Gyda’r rhan fwyaf o’r cwrs yn cael ei gyflwyno o bell drwy ein porth dysgu rhithwir, gallwch barhau i weithio drwy gydol eich astudiaethau, gan brofi darlithoedd a deunydd cwrs ar-lein tra’n cymhwyso eich gwybodaeth newydd i senarios go iawn yn eich rôl bresennol.

Bydd y cyrsiau hyn yn cyflwyno pobl i bynciau newydd, pob un yn ymwneud â thechnolegau Diwydiant 4.0. Bydd hyn yn galluogi cyfranogwyr o bob rhan o Gymru i ddatblygu’r sgiliau sy’n gynyddol bwysig i dwf, arloesedd a gwydnwch busnesau. Mae’n bwysig bod pobl yn cael cyfleoedd parhaus i ddysgu, ac mae’r fenter ragorol hon, dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dod â chwricwlwm a arweinir gan y diwydiant a dysgu ar-lein cyfunol ar ei gilydd gan ei gwneud yn hawdd i unrhyw un gael mynediad ato

Mark Thomas, Rheolwr Safle, Energizer UK

Lawrlwythwch gopi o’r cynllun sy’n cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd.

LAWRLWYTHO’R CYNLLUN

Taflen Wybodaeth

GWELLIANT PARHAUS
GYDA DIWYDIANT 4.0

(TYSTYSGRIF LEFEL 5 40 CREDYD)

LAWRLWYTHO

Taflen Wybodaeth

Gweithgynhyrchu Clyfar
gyda Diwydiant 4.0

(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)

LAWRLWYTHO

Taflen Wybodaeth

Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0
Diwydiant 4.0 Uwch
Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)

GWEITHGYNHYRCHU UWCH DIWYDIANT 4.0
(MSC LEFEL 7)

LAWRLWYTHO

Gwregys Gwyrdd Six Sigma Ansawdd
Prosiect Grŵp

Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)

GWELLIANT PARHAUS GYDA DIWYDIANT 4.0
(TYSTYSGRIF LEFEL 5 40 CREDYD)


GWNEWCH GAIS NAWR

Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0
Diwydiant 4.0 Uwch neu
Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

Ar-lein o
4 Mehefin 2021(rhan-amser)

Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)

GWNEWCH GAIS NAWR

Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0
Diwydiant 4.0 Uwch
Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

Ar-lein o
4 Mehefin 2021 (rhan-amser)

GWEITHGYNHYRCHU UWCH DIWYDIANT 4.0
(MSC LEFEL 7)

GWNEWCH GAIS NAWR

Eisoes yn cymryd rhan yn
Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0:Cymru?

MYNEDIAD I AMGYLCHEDD
DYSGU RHITHWIR PCYDDS

MYNEDIAD

CWESTIYNAU CYFFREDIN

CLICIWCH YMA AM
GWESTIYNAU CYFFREDIN

DYSGU MWY


Newyddion a Digwyddiadau

CLICIWCH YMA AM NEWYDDION A DIGWYDDIADAU
DIWEDDARAF MADE CYMRU

DARLLEN MWY

Siaradwch â ni

I ddysgu mwy am Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 neu unrhyw un o’r rhaglenni a gynigir gan MADE Cymru, cysylltwch â ni heddiw.