Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Alan Mumby yw’r darlithydd sy’n cyflwyno elfennau craidd cwrs Meistr Rheoli Arloesedd Rhyngwladol PCYDDS (MSc ac MBA). Mae hyn yn cynnwys y modiwlau Rheoli Arloesedd a Datblygu Cynnyrch Newydd. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cyfunol fel Dylunydd Cynnyrch ac yna’n Strategydd Dylunio ac Arloesi, mae Alan wedi gweithio i gwmnïau, asiantaethau’r llywodraeth a phrifysgolion yma yng Nghymru yn ogystal â gyda chwmnïau a sefydliadau cleientiaid ledled Ewrop ac Asia. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn 1995, ac mae Alan bellach ar fwrdd cynghori RSA Cymru.

Y tu allan i’r gwaith mae ei fywyd yn cylchdroi o gwmpas y gitâr, criced, rygbi a threulio cymaint o amser yn Ffrainc â phosib!