Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Treuliodd Graham y rhan gyntaf o’i yrfa yn y diwydiant modurol, gan arwain timau prosiect yn y broses o ddylunio, datblygu a chynhyrchu cydrannau modurol ar draws y byd. Ers symud i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae’n bennaeth ar yr Ysgol Beirianneg, wedi arwain y broses o ddatblygu rhaglenni Gweithgynhyrchu Israddedig ac Ôl-raddedig ac mae’n frwd dros gefnogi Gweithgynhyrchu yng Nghymru drwy ddatblygu sgiliau a gwybodaeth. Gyda’r cefndir hwn, bachodd ar y cyfle i ymuno â thîm MADE gan fod y cyfle i helpu sefydliadau Cymru i oresgyn cynnwrf Diwydiant 4.0 a nodi technolegau newydd a allai weddnewid eu busnesau, yn gymhelliant a chyfle enfawr na allai Graham ei wrthod.

I ffwrdd o gyffro a her y sector gweithgynhyrchu, mae Graham yn dioddef (neu’n mwynhau?) gwylio Scarlets Llanelli ac wedi bod yn chwarae mewn band (sy’n swnio’n cŵl (?), nes i chi ddarganfod mai band pres yw ef.)