Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Dechreuodd Jaymie ei yrfa ym maes cyfrifiadureg, yn fwy penodol fel peiriannydd meddalwedd. Wrth gyflawni rolau o’r fath treuliodd lawer o’i amser yn mentora a hyfforddi datblygwyr i reoli prosiectau meddalwedd. Yn yr achosion prin nad oedd yn tiwtora datblygwyr iau, roedd yn archwilio’r defnydd o systemau rhad wedi’u gwreiddio ar gyfer cymwysiadau meddygol. Ar ôl treulio amser yn tiwtora, sylweddolodd ei fod yn frwd dros addysgu a chymerodd swyddi gyda PCYDDS yn darlithio mewn Peirianneg Meddalwedd ac Iechyd.

Fel rhan o’r ddarpariaeth iechyd yn y brifysgol bu’n arwain ar symleiddio’r broses dderbyn a chyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau newydd ar gyfer y portffolio.

Ar hyn o bryd mae Jaymie yn gwneud ymchwil doethurol mewn arloesi iechyd, a chlywodd am y cyfle yn MADE drwy sgwrs ar hap â phennaeth yr ysgol cyfrifiadureg, a welodd y budd y gallai ei gefndir a’i ymchwil eu hychwanegu at y prosiect. Gyda’r heriau mae gofal iechyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd a’r angen am atebion digidol arloesol, nid oedd amheuaeth mai hwn oedd y lle cywir i wneud gwahaniaeth.