Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Lisa Lucas yn Uwch Swyddog Ymchwil ar y prosiect Peirianneg Dylunio Uwch (ADE). Mae ganddi dros 16 mlynedd o brofiad ym maes datblygu busnes ac mae’n gyfrifol am feithrin a chynnal perthynas effeithiol â’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn ogystal â datblygu cynigion a rheoli’r prosiectau ymchwil cydweithredol yn y rhaglen ADE.

Fel Rheolwr Prosiect profiadol, mae wedi datblygu a rheoli prosiectau R&D cydweithredol llwyddiannus rhwng y Brifysgol a’r diwydiant, yn ogystal â rheoli prosiect Ewropeaidd Cymru gyfan a gynorthwyodd dros 200 o fusnesau ledled Cymru i fabwysiadu systemau a phrosesau newydd. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae wedi sefydlu enw da am reoli nifer o brosiectau yn y sector gweithgynhyrchu gydag amrywiaeth o gwmnïau o gwmnïau angori mawr fel Aston Martin a Calsonic Kansei i fusnesau bach a chanolig lleol. Mae’r cydweithio wedi amrywio o ran maint a chwmpas ac wedi ymdrin ag amrywiaeth o feysydd ymchwil a thechnolegau.

Yn ddymunol ac yn hwyliog ei natur, mae Lisa’n ymfalchïo yn y perthnasoedd gwaith cadarnhaol mae wedi’u meithrin a’u cynnal dros y blynyddoedd ac yn edrych ymlaen at yr her a osodir gan dirlun sy’n newid yn barhaus yn niwydiant Cymru.