Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Luca yn uwch beiriannydd ymchwil sy’n gyfrifol am reoli a chyflawni prosiectau R&D yn nhîm MADE.

Mae ganddo enw da am R&D, mewn sawl sector, ac arbenigedd mewn Dadansoddiad Elfennau Cyfyngedig (ABAQUS CAE, Effeithiau Cyflymder Isel/Uchel, Stateg ac Optimeiddio), Deunyddiau Cyfansawdd, Mecaneg Torri, Dadansoddi Methiant, NDT&E (Profi a Gwerthuso Heb Ddinistrio) a Thechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch. Mae Luca’n hoff o dasg ‘amhosibl’ ac mae yn ei elfen wrth weld prosiectau peirianneg yn datblygu o syniad bras i gael eu cwblhau.

Yn ei amser sbâr, er ei fod yn dipyn o ‘geek’, mae’n hoff o berygl chwaraeon eithafol (er nad yw ei bartner yn hapus am hynny).