Y Sgwrs Fawr: Helpu Prydain i Adfer: Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ddydd Mercher 30 Medi, 12:00pm – 12:45pm, mae Lloyds Bank yn cynnal digwyddiad ‘Y Sgwrs Fawr: Helpu Prydain i Adfer’ (‘The Big Conversation: Helping Britain Recover’.

Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn dod â lleisiau rhanbarthol at ei gilydd i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau yng Nghymru wrth iddynt wella o effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws. 

Fe’i cynhelir gan y newyddiadurwr darlledu Declan Curry, ac mae’r panel o siaradwyr yn cynnwys: 

Dywedodd Graham Howe, Prif Gymrawd Ymchwil a Darlithydd yn MADE Cymru, “Rwy’n edrych ymlaen at glywed gan y cyflwynwyr a chanfod ffyrdd pellach y gallwn gydweithio i gryfhau adferiad economaidd Cymru. Mae ein tîm o arbenigwyr diwydiant eisoes yn gweithio gyda nifer o weithgynhyrchwyr yng Nghymru i ddiogelu eu cynnyrch a’u prosesau yn y dyfodol drwy harneisio technolegau newydd ac uwchsgilio staff. Rhaid i ni edrych i’r dyfodol a dathlu llwyddiannau gwych gweithgynhyrchu yng Nghymru.”

Byddant yn trafod anghenion unigryw Cymru, gan archwilio safbwyntiau ar y llwybrau gorau i adfer. Bydd pleidleisio byw hefyd a chyfle i ofyn cwestiynau. Gallwch helpu i lunio’r sgwrs drwy roi gwybod iddynt beth sy’n bwysig i chi ar y dudalen gofrestru. 

COFRESTRWCH YMA:

https://lloydsbanklive.lbgevent.com/the-big-conversation-wales/login

I sgwrsio â thîm MADE Cymru am sut y gallwn helpu eich busnes gweithgynhyrchu i adfer (drwy gyrsiau ar-lein neu gydweithio ym maes ymchwil a datblygu), cysylltwch â ni drwy’r ffurflen isod.