Uwchsgiliwch gyda chwrs Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 neu Reoli Arloesedd MADE Cymru, gan ddechrau ar 4 Mehefin

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae gan MADE Cymru leoedd wedi’u hariannu’n rhannol ac wedi’u hariannu’n llawn ar gael ar ein cyrsiau Rheoli Arloesedd a/neu Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 – cyrsiau byr neu hir. Gan ddechrau ar 4 Mehefin. Byddwch yn ymuno â dosbarth gyda sefydliadau gwych o Gymru sydd eisoes wedi cofrestru – cyfle gwych i rwydweithio. Mae ein myfyrwyr presennol yn dod o ystod enfawr o sectorau a rolau swyddi.

Rhai ffeithiau:

  • Dim ond am gwpl o fisoedd yn unig y mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn – gallwch chi astudio am MSc sy’n werth dros £10,000
  • Mae pob cwrs ar-lein /yn hyblyg – gallwch ddysgu o unrhyw le
  • Fe’u cynlluniwyd gan arbenigwyr yn y diwydiant ac maen nhw’n ymarferol iawn – gallwch gymhwyso’r hyn rydych yn ei ddysgu ar unwaith
  • Cydweithiwch â’ch cyd-ddisgyblion sy’n dod o amrywiaeth o wahanol sectorau – modurol, tecstilau, Llywodraeth Cymru, iechyd, bwyd, adeiladu
  • Amcangyfrifir bod prosiectau cyntaf ein myfyrwyr yn unig yn werth dros £1m i’w busnesau
  • Mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau ar-lein helaeth sydd werth dros £800,000
  • Cofrestrwch gymaint o weithwyr ag y dymunwch
  • Mae pob cwrs wedi’i ardystio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Dyma’r cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig:

  • Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Tystysgrif 40 credyd Lefel 5)
  • Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0 (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)
  • Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (MSc Lefel 7) – opsiwn i astudio modiwlau unigol os dymunir
  • Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)
  • Rheoli Arloesedd Rhyngwladol (MSc Lefel 7)

Anfonwch e-bost atom MADE@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 01792 481199 a gallwn anfon llyfrynnau cyrsiau unigol atoch. Rhannwch gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb.