Mae Andrew Williams yn Uwch-beiriannydd Gweithgynhyrchu gyda PerkinElmer, corfforaeth fyd-eang sy’n canolbwyntio ar feysydd busnes diagnosteg, ymchwil gwyddorau bywyd, profion diwydiannol, bwyd, ac amgylcheddol. Ac yntau yng Nghymru, yn ddiweddar cofrestrodd Andrew ar rai o’r modiwlau a gynigir gan Made Cymru. Y mae eisoes wedi cwblhau ‘Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0’ ac mae hefyd yn astudio ‘Cyflwyniad i Reoli Arloesedd’ a ‘Rheoli Datblygiad Cynnyrch Newydd’. Yn ogystal â bodoli fel modiwlau annibynnol, gall y rhain gael eu defnyddio fel credydau tuag at MSc mewn Rheoli Arloesedd. Maent oll wedi’u hachredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Penderfynom gael sgwrs fach ag Andrew er mwyn dysgu mwy am y cwrs ac am yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i gael ar ei waith.
Felly, Andrew, sut clywaist ti am MADE Cymru i ddechrau arni?
Dysgais am MADE Cymru gan Graham Howe, gan ddilyn argymhelliad ein rheolwr Adnoddau Dynol Grant Jones, a’n Cyfarwyddwr Gweithrediadau Mark Lambert.
Beth berodd i ti gofrestru ar y cwrs?
O edrych ar y modiwlau gwahanol ar y cwrs MSc, meddalais ‘rwy’n siŵr fy mod i’n gwneud hynny’n barod’, a ‘dw i’n meddwl y gallwn i gwblhau prosiectau gwaith a fyddai’n bodloni gwahanol griteria’r modiwl hwn’.
Roeddwn i’n meddwl y byddai pawb ar eu hennill, fy nghwmni a finnau hefyd – addysg bellach gyda chymwysterau’r 21ain Ganrif, dyna yw e!
Sut cafodd/sut mae’r modiwlau’n cael eu dysgu a beth oedd dy ymrwymiad amser?
Mae fy modiwlau i’n cael eu dysgu ar brynhawniau Gwener, rhwng 1-5pm fel arfer. Dosbarthiadau tiwtorial Live TEAMS yw’r rhain, ac rwyf wastad yn sicrhau mod i’n bresennol. Rwy’n treulio mwy o amser ar y cyrsiau yn ystod yr wythnos, yn darllen a’n cwblhau’r tasgau a osodwyd ayyb.
Sut wyt ti’n ymdopi â gweithio ac astudio?
Rwy’n credu fy mod i’n ymdopi’n dda iawn wrth weithio, astudio, a mwynhau bywyd teuluol ar yr un pryd. Gan fod llawer o’r modiwlau yn seiliedig ar waith, gallaf ddefnyddio profiadau fy nghefndir diwydiannol yn ogystal â defnyddio’r syniadau newydd yn y gweithle hefyd. O ganlyniad, rwy’n cael mwy o foddhad o lawer o’n swydd. Rwyf wir yn mwynhau dysgu am syniadau a dulliau newydd, ac yna’u gweld yn dwyn ffrwyth yn y gweithle.
Pa bethau penodol o’r modiwlau sy’n werthfawr i ti?
Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0 – edrych ar dechnolegau newydd, megis argraffu 3D, Realiti Estynedig, Prosesau Awtomatiaeth Robotaidd a mwy. Pethau cyffrous!
Rheoli Arloesedd – Edrych ar Arloesedd a’r holl broses sy’n ymwneud ag o. Roeddwn i’n arfer meddwl amdano fel gair yn unig, ond bellach rwy’n gweld pa mor werthfawr ydyw i gwmnïau a bod angen ei reoli – boed yn Gynnyrch, yn Broses, yn Wasanaeth – Radical neu Gronnol ac yn y blaen.
Wyt ti’n dysgu unrhyw sgiliau newydd?
Rwy’n credu fy mod i eisoes wedi dysgu sgiliau newydd. O fynychu’r modiwlau, mae’r rhaglen MADE wedi fy nysgu i edrych ar y broses o weithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd, yr Economi Gylchol er enghraifft, sy’n feddylfryd diwydiannol y dylem ni gyd ei fabwysiadu.
Ym mha ffyrdd wyt ti’n credu y gwnei di ddefnyddio’r hyn yr wyt wedi’i ddysgu wrth dy waith? A wyt ti wedi gwneud eisoes?
Mewn sawl ffordd – rheoli Arloesedd wrth argraffu feisorau wyneb i’n staff, i’r gymuned, a’r GIG yn sgil Covid 19. Integreiddio Realiti Estynedig a Phrosesau Awtomatiaeth Robotig ar gyfer y cynnyrch diweddaraf y bues i’n Rheolwr Prosiect Peirianneg Gweithgynhyrchu arno.
Mae’n amlwg fod Coronafeirws wedi cael effaith ar dy fyd gwaith yn ogystal â dy fywyd adref, sut all rhaglenni fel MADE wella rhagolygon economaidd Cymru yn y dyfodol yn dy farn di?
Yn ogystal â’r pethau y soniais amdanynt uchod, bydd y rhaglen MADE yn dysgu ymgeiswyr sut i ddefnyddio technoleg i wella cyfathrebu o bell, defnyddio TEAMs i integreiddio Gweithio o Adref gyda’r Gweithle er enghraifft… Cael mynediad at fasau data gan ddefnyddio VPN er enghraifft..
Diolch Andrew – rydym yn edrych ymlaen at gael sgwrs arall gyda thi’n fuan.
Am gyfnod BYR, gall MADE Cymru gynnig safleoedd wedi’u noddi’n llawn (am ddim)*. E-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy wneud ymchwil a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n Rhannol/Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
*Yn amodol ar gymhwysedd