Ymunwch â ni am baned ac i drafod cyrsiau gweithgynhyrchu WEDI’U HARIANNU’N LLAWN*

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ers cyhoeddi bod ein modiwlau a’n cyrsiau bellach wedi’u hariannu’n llawn mae’r tîm wedi gweld llu o ymatebion a chwestiynau gan weithgynhyrchwyr Cymru. Yn sgil sesiwn cwestiwn ac ateb lwyddiannus iawn ar Zoom ym mis Mehefin, rydym wedi trefnu un arall ar gyfer 9:30am Dydd Mawrth 7 Gorffennaf. Dyma gyfle i chi glywed gan dîm MADE Cymru a chael atebion i’ch cwestiynau. Ni fydd y sesiwn anffurfiol hon yn para mwy nag awr.

Mae pob un o’n modiwlau wedi’u cynllunio i fod yn gyfleus, yn hyblyg, ac yn seiliedig ar waith (gallwch ddefnyddio’r hyn a ddysgwch ddydd Gwener wrth eich gwaith ddydd Llun). Mae’r addysgu yn fyw ac ar-lein, a chan arbenigwyr yn y diwydiant. Mae nifer o bwyntiau cychwyn gwahanol drwy gydol y flwyddyn a gallwch gymryd seibiant/ail-ymuno ar wahanol bwyntiau o’r cwrs.

Mae ein cyrsiau (a ardystiwyd gan PCYDDS) yn cynnwys:

  • Diwydiant 4.0 Gweithgynhyrchu Uwch
  • Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0
  • Rheoli Arloesedd

Denodd y sesiwn ddiwethaf nifer fawr o gwmnïau gweithgynhyrchu Cymru o ystod eang o wahanol sectorau – yn gymysgedd o fusnesau bach, canolig, a busnesau mwy. Ers hynny, mae llawer ohonynt wedi cofrestru ar gyfer y cyrsiau.

I gofrestru ar gyfer y sesiwn cwestiwn ac ateb ar 7 Gorffennaf am 9:30pm, cliciwch y ddolen Zoom isod:

https://zoom.us/meeting/register/tJIqfuGqrzMqGdbeWkOqEXTcS0gEGN7oQo7U

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk

Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Diwydiant 4.0 drwy wneud ymchwil a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n Rhannol/Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

*Yn amodol ar gymhwysedd